Croeso i Patients Know Best (PKB).
Mae’r dudalen hon yn egluro sut a pham rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, beth yw eich hawliau a sut y gallwch arfer eich hawliau mewn perthynas â’r defnydd hwn o’ch gwybodaeth bersonol.
Rydyn ni'n darparu'r wybodaeth hon fel y gallwch chi benderfynu a ydych chi am greu eich Cyfrif PKB ai peidio, a thrwy hynny gallwch chi rannu eich gwybodaeth gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n darparu eich gofal a gwneud rhai penderfyniadau am sut maen nhw'n rhannu eich gwybodaeth bersonol.
I ddysgu sut i ddefnyddio'ch Cyfrif, mae'r llawlyfr defnyddiwr yn: https://wiki.patientsknowbest.com/space/MAN/
Y termau rydyn ni'n eu defnyddio
"Chi" Mae hyn yn golygu chi, y defnyddiwr a'r person sy'n rheoli pwy all weld neu rannu eu cofnod
"Cyfrif Patients Know Best (PKB)" yw'r cyfrif ar-lein sy'n dangos eich gwybodaeth iechyd personol a rennir gan eich darparwyr gofal ac sy'n rhoi rhywfaint o reolaeth i chi dros bwy all ei gweld, gan gynnwys yr hyn y gallwch ddewis ei ychwanegu amdanoch chi'ch hun
"Cofnod Patients Know Best (PKB)" yw'r wybodaeth amdanoch a ddarparwyd gan eich darparwyr gofal ac a rennir rhyngddynt i ddarparu gofal diogel i chi cyn i chi greu eich Cyfrif PKB
Mae "Data a Gyfrennir gan Gleifion" yn golygu'r wybodaeth rydych yn ei hychwanegu at eich Cyfrif PKB ac yn dewis ei gwneud yn weladwy i weithwyr proffesiynol sy'n darparu eich gofal ac unrhyw un arall a ddewiswch
Mae "Data a Gyfrennir gan y Darparwr" yn golygu'r wybodaeth y mae gweithwyr proffesiynol wedi'i chofnodi a'i rhannu rhyngddynt eu hunain trwy'r Cofnod PKB a gyda chi yn eich Cyfrif PKB
"Y Gwasanaeth" yw'r llwyfan TG a'r meddalwedd y mae PKB yn eu defnyddio i ddarparu eich Cyfrif PKB ar-lein a Chofnod PKB
"Gofalwyr" yw ffrindiau, teulu neu unrhyw un yr ydych yn dewis rhoi mynediad iddynt i'ch Cyfrif PKB
"Gweithwyr Proffesiynol" yw'r bobl sy'n gweithio i sefydliadau sydd wedi cael mynediad i Gofnodion PKB oherwydd eu bod yn helpu darparu eich gofal. Mae hunaniaeth a chymwysterau'r bobl hyn wedi cael eu gwirio, er enghraifft, meddygon a nyrsys, ac maent wedi cael eu hyfforddi i drin gwybodaeth gyfrinachol am gleifion
"Sefydliadau" yw cwsmeriaid PKB sydd â gwybodaeth amdanoch chi ac y gallwch chi ddewis ymddiried ynddynt i weld eich cofnodion, er enghraifft, ysbytai neu feddygon teulu
Mae "Amgryptio" yn ddull o ddiogelu eich gwybodaeth fel mai dim ond y rhai sydd â'r manylion cywir sy'n gallu cael mynediad ati
Mathau o Ddefnyddwyr Gwasanaeth PKB
Yn ogystal â chleifion, gall y Gwasanaeth PKB gael ei ddefnyddio gan dri math arall o ddefnyddiwr:
Gofalwyr
Gweithwyr Proffesiynol
Sefydliadau
Ceir gwybodaeth am y rolau hyn yn llawlyfr PKB: https://wiki.patientsknowbest.com/space/MAN/
Diben PKB
Rydym anelu at ddod â'ch cofnodion iechyd atoch o unrhyw le, ac i chi reoli pwy sy'n gweld y cofnodion hyn.
Yn eich Cyfrif PKB rhennir eich gwybodaeth yn bedwar maes:
Iechyd cyffredinol (e.e. diabetes)
Iechyd rhywiol (e.e. heintiau a drosglwyddir yn rhywiol)
Iechyd meddwl (e.e. iselder)
Gwybodaeth am ofal cymdeithasol (e.e. canolfannau dydd)
Ar ôl creu eich Cyfrif PKB, gallwch benderfynu pwy all weld beth, e.e. efallai y byddwch am i'ch meddyg weld popeth ond eich teulu i weld eich iechyd cyffredinol yn unig. Gallwch hefyd ofyn i eraill benderfynu ar eich rhan, e.e. gall eich meddyg rannu gyda meddygon eraill ar eich rhan. Os oes gan Sefydliad wybodaeth amdanoch, gall y Sefydliad anfon y wybodaeth honno atoch drwy PKB, e.e. anfon llythyrau rhyddhau yn awtomatig i'ch Cyfrif PKB.
Bydd Gwasanaeth PKB yn chwilio cronfeydd data eraill i ddangos gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i chi. Chi sy'n penderfynu sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon, e.e. os byddwn yn dweud wrthych am dreial clinigol, chi sy'n penderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio. Ni chaiff eich gwybodaeth ei rhannu ag unrhyw un nes i chi benderfynu.
Datgelu gwybodaeth a defnydd pellach
Nid ydym yn defnyddio nac yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw un ac eithrio fel y disgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.
Os byddwch yn anfon cais am help atom (manylion cyswllt isod) rydych yn debygol o roi eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Byddwn ond yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu'r cymorth yr ydych wedi gofyn amdano.
Gall PKB ddefnyddio eich gwybodaeth ymhellach:
I roi gwybodaeth bwysig i chi am y Gwasanaeth, megis diweddariadau a hysbysiadau (e.e. newidiadau yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn)
I anfon cylchlythyr e-bost PKB atoch (os ydych wedi dewis ei dderbyn)
I nodi eich oedran a lleoliad i helpu i benderfynu a ydych yn bodloni'r meini prawf ar gyfer Cyfrif PKB
Mae PKB yn contractio cwmnïau i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan, megis ein desg gymorth neu i ateb ymholiadau am y Gwasanaeth. Rydym yn rhoi mynediad i'r sefydliadau hynny i'r wybodaeth bersonol leiaf yn unig i'ch helpu gyda'ch ymholiadau, megis eich cyfeiriad IP (lleoliad eich cyfrifiadur) neu gyfeiriad e-bost. Maent yn rhwym i gontract a dyletswydd cyfrinachedd. Ni all y cwmnïau hyn gael mynediad at eich gwybodaeth iechyd, sydd wedi'i hamgryptio.
Gwasanaethau'r GIG
Sylwer os byddwch chi'n cyrchu ein gwasanaeth yn defnyddio eich manylion mewngofnodi y GIG, mae'r gwasanaethau dilysu hunaniaeth yn cael eu rheoli gan NHS England. NHS England yw'r rheolydd ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a rowch i NHS England i gael cyfrif mewngofnodi GIG a dilysu eich hunaniaeth, ac mae'n defnyddio'r wybodaeth bersonol honno yn gyfan gwbl i'r diben hwnnw. Ar gyfer yr wybodaeth bersonol yma, ein rôl ni yw "prosesydd" yn unig a rhaid i ni weithredu dan y cyfarwyddiadau a ddarparwyd gan NHS England (fel y "rheolydd") wrth ddilysu eich hunaniaeth. I weld Hysbysiad Preifatrwydd ac Amodau a thelerau NHS England, cliciwch yma. Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i'r wybodaeth bersonol a roddwch i ni ar wahân.
Os ydych chi'n defnyddio Ap y Gwasanaeth Iechyd, efallai y byddwn yn anfon negesau atoch ynghylch eich iechyd a'ch gofal ar ran eich darparwr gofal iechyd drwy Wasanaeth Negeseuon Ap y Gwasanaeth Iechyd. Darperir Gwasanaeth Negeseuon Ap y Gwasanaeth Iechyd drwy Wasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ym mholisi preifatrwydd Cyfrif ac Ap y Gwasanaeth Iechyd
A allaf ddileu neu guddio fy nghyfrif PKB os byddaf yn newid fy meddwl?
Gallwch olygu neu guddio gwybodaeth rydych wedi'i hychwanegu nes i weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol ei gweld. Ar ôl i Weithiwr Proffesiynol weld gwybodaeth yn eich Cyfrif PKB gellir ei gadw gan y Sefydliad. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cyfnod cadw hwn fel arfer yn 8 mlynedd fel yr amlinellir yn y Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion.
Ni allwch olygu na chuddio gwybodaeth y mae eraill wedi'i hychwanegu. Os hoffech chi newid neu guddio gwybodaeth sydd wedi'i hychwanegu gan Sefydliad amdanoch chi, er enghraifft, os yw'n anghywir, rhaid i chi gysylltu â'r Sefydliad hwnnw i ofyn am hyn. Cedwir eich holl ddata iechyd PKB yn ddiogel a chaiff ei amgryptio wrth ei storio ac wrth ei gludo.
Cofnodion plant
Yr unig eithriad i'r swyddogaeth uchod yw cofnodion plant. Mae gan weithwyr proffesiynol reolaeth i sicrhau diogelwch gofal y plentyn. Mae rheolaeth lawn o'ch cofnod yn bosibl o 13 oed ymlaen, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig e.e. i amddiffyn eich iechyd. Rhaid ichi gysylltu â'r Sefydliad i drefnu hyn.
Cofnodion PKB
Dim ond os yw'r Sefydliadau yn rhoi'r cyfarwyddyd hwn i PKB y bydd eich Cofnod PKB yn cael ei ddileu. Mae hyn oherwydd y gall Gweithwyr Proffesiynol wneud penderfyniadau am eich gofal yn seiliedig ar wybodaeth yn eich Cofnod PKB. Mae hwn yn achos tebyg i'r hyn y mae eich meddyg yn cadw cofnodion amdanoch ar gyfer diogelwch eich gofal yn y dyfodol.
Fel arfer, caiff cofnodion iechyd oedolion eu dileu 8 mlynedd ar ôl i'r Sefydliad eu cyrchu ddiwethaf, ond bydd PKB ond yn dileu eich cofnod unwaith y bydd Sefydliad yn ein cyfarwyddo i wneud hynny. Lle mae Sefydliadau lluosog yn cyfrannu at eich Cofnod PKB, bydd angen i bob Sefydliad ddarparu cyfarwyddyd dileu ar gyfer data y maent yn rheolwr arno e.e. ni all Sefydliad A ofyn am ddileu data a gyfrannwyd gan Sefydliad B.
Gall sefydliad roi cyfarwyddyd dileu i PKB ar unrhyw adeg yn ystod eu contract. Ar ôl i'r contract Gwasanaeth ddod i ben gall Sefydliad ofyn i'r Cofnod PKB gael ei ddileu neu ei gadw (yn unol â'r Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion) o fewn PKB neu mewn system wahanol. Pan fydd y Sefydliad yn darparu cyfarwyddyd cadw i PKB ar ôl i'r contract Gwasanaeth ddod i ben, sefydlir contract cadw yn unig.
Gofal brys
Mewn argyfwng, gall Gweithwyr Proffesiynol ddiystyru'r cyfyngiad rydych wedi’i roi ar fynediad i'ch gwybodaeth. Gelwir hyn yn 'Torri'r Gwydr'. Pan fyddant yn gwneud hyn rhaid iddynt ddatgan y rheswm sydd ganddynt dros gael mynediad i'ch cofnod. Mae PKB yn cofnodi’r cam hwn, ac mae’r Sefydliad yn ei adolygu. Dim ond ar gyfer argyfyngau y mae Torri’r Gwydr, efallai pan na fyddwch yn meddu ar y galluedd i gydsynio (e.e. os ydych yn anymwybodol) a phan (ym marn glinigol y Gweithiwr Proffesiynol) y mae er eich budd hanfodol bod y Gweithiwr Proffesiynol yn gweld eich cofnod.
Eich hawliau chi
Gallwch ofyn i'ch Sefydliad "Analluogi Rhannu" os nad ydych yn dymuno rhannu eich cofnod gydag unrhyw Weithiwr Proffesiynol, ac i atal Gweithwyr Proffesiynol rhag gallu Torri'r Gwydr. Dylech feddwl yn ofalus cyn gofyn am hyn ac adolygu eich penderfyniad o bryd i'w gilydd. Gydag Analluogi Rhannu, dim ond y wybodaeth amdanoch y maent wedi'i hychwanegu at eich cofnod y gall Gweithwyr Proffesiynol ei gweld, a dim data arall gan unrhyw barti arall. Mae rhagor o wybodaeth am Analluogi Rhannu ar gael yma: Disabled sharing
Sut diogelir fy ngwybodaeth?
Mae PKB wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd.
Ni allwn weld eich cofnod iechyd ac nid oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol dros eich gwybodaeth. Rydym yn storio'ch holl wybodaeth ar weinyddion diogel ac yn amgryptio'ch holl wybodaeth. Mae ein mesurau diogelwch yn cael eu profi o leiaf unwaith y flwyddyn i safonau a osodwyd gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU.
Sail Gyfreithiol
Gwybodaeth a gyfrennir gan Sefydliad (Cofnod PKB)
I ddarganfod y seiliau cyfreithiol ar gyfer Sefydliad a ddarparodd eich gwybodaeth, dylech wirio eu hysbysiad preifatrwydd.
Ar gyfer holl Sefydliadau'r DU, mae gan PKB gontract sy'n nodi cyfrifoldebau pob parti, gan hwyluso casglu a lledaenu data drwy'r Cofnod Cleifion i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu am gleifion ar y cyd, lle nad oes gan Sefydliadau berthynas fel arall. Mae PKB yn Brosesydd ar gyfer yr holl ddata sy'n ffurfio'r Cofnod PKB.
Gallwch weld copi o'r DPC templed isod, er y gall manylion y cytundeb amrywio rhywfaint o Sefydliad i Sefydliad:
Prosesu Data y DU / Cytundebau Rhannu
I weld rhestr o'r holl sefydliadau sy'n defnyddio PKB, gweler y map hwn.
Cyfrifoldebau PKB yn y DPC fel Prosesydd yw:
Darparu'r Gwasanaeth
Darparu diogelwch y Gwasanaeth
Prosesu ar gyfarwyddiadau ysgrifenedig y Rheolydd
Mae Sefydliadau sy'n darparu data yn gyfrifol am:
Ansawdd yr wybodaeth a lanlwythwyd i PKB gan gynnwys sicrhau bod y labeli preifatrwydd cywir gyda'r wybodaeth gysylltiedig
Darparu mynediad i'r rhai yn y Sefydliad sydd ei angen
Gwybodaeth a gyfrennir gan gleifion (Cyfrif PKB)
Unwaith y byddwch yn creu eich Cyfrif PKB, PKB yw'r rheolydd ar gyfer y wybodaeth rydych yn cyfrannu ac mae’n dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol:
Prosesu dan fuddiannau cyfreithlon. Dim ond ar ôl i chi gofrestru'n wirfoddol a'ch bod wedi ychwanegu gwybodaeth at eich Cyfrif PKB y bydd prosesu'n digwydd. Dylid parhau i ddiogelu eich buddiannau, hawliau a rhyddid
Prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal. Mae PKB yn sicrhau bod gwybodaeth cleifion ar gael i ddarparwyr, perthnasau a/neu ofalwyr i gefnogi’r gwaith o ddarparu gofal, yn ogystal â chynorthwyo’r claf i gael mynediad at wasanaethau gofal
Ar gyfer Sefydliadau sy'n defnyddio PKB, ar ôl i chi rannu data â nhw, bydd cydberthynas Rheolydd ar y Cyd yn cael ei ffurfio ar gyfer y data hwn rhwng PKB a'r Sefydliad - Gall y Sefydliad gadw'r data hwn fel rhan o'ch cofnod gofal iechyd.
Swyddog Diogelu Data PKB (DPO)
Swyddog Diogelu Data PKB yw David Grange.
Gallwch ysgrifennu at ein Swyddog Diogelu Data: dpo@patientsknowbest.com
Llwybrau Cysylltu Patients Know Best Ltd
I gysylltu â Thîm Cymorth PKB: Contact Patients Know Best
Ceir rhagor o wybodaeth am PKB trwy ein gwefan: https://patientsknowbest.com
Cofrestriad a Chwynion ICO y DU
Mae PKB wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sy'n rheoleiddio diogelu data yn y DU, a’n rhif cofrestru yw Z2704931.
Gallwch godi cwyn gyda’r Rheoleiddiwr yma: Make a complaint
Cydsyniad a Gwybodaeth Bellach
Mae defnydd parhaus Defnyddiwr o'r Gwasanaeth yn gyfystyr â chytundeb y Defnyddiwr i'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os teimlwch fod angen rhagor o wybodaeth arnoch, cyfeiriwch at y Llawlyfr PKB a Chanolfan Ymddiriedaeth PKB isod neu cysylltwch â ni drwy Contact Patients Know Best
Llawlyfr PKB: Privacy Notice UK
Canolfan Ymddiriedaeth PKB: Welcome to The Patients Know Best Trust Centre
Sylwer: Os gwnaethoch chi gofrestru gyda PKB cyn 2 Chwefror 2022, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd blaenorol sy'n berthnasol i’ch cofrestriad a chysyniad.
Matrics Erthygl GDPR Hysbysiad Preifatrwydd
Teitl y ddogfen
Cymeradwywyd gan:
Dyddiad:
Hysbysiad Preifatrwydd f5.4 UK
Y Swyddog Diogelu Data, Pennaeth Llywodraethu Gwybodaeth a'r Bwrdd Gweithredol
2 Rhagfyr 2024
Trwy dderbyn y Cytundeb Defnyddiwr a'r Hysbysiad Preifatrwydd rydw i'n caniatáu i Patients Know Best greu Cyfrif PKB fel y nodir yn y Cytundeb Defnyddiwr a Hysbysiad Preifatrwydd.
Mae'n drosedd i ddefnyddio manylion personol rhywun arall i gael mynediad i'w cofnodion iechyd. Os ydych chi wedi derbyn gwahoddiad ar gam, dylech ei ddileu.
Patients Know Best Wiki Hub | Deploy | Developer | Trust Centre | Manual | Research | Education | Release Notes
© Patients Know Best, Ltd. Registered in England and Wales Number: 6517382. VAT Number: GB 944 9739 67.